The Bishops of the Church in Wales are holding open meetings across Wales this month and next (Jan and Feb) to consult on a code for ordaining women as bishops.
As part of legislation to ordain women bishops, passed by the Church in September, the Bishops have to draw up a Code of Practice to ensure all members of the Church, including those with conscientious objections to the decision, continued to feel accepted and valued in it.
Open meetings in each of the six Welsh dioceses are now being held for members to have their say on what provisions that code should include. The meetings will be followed by a discussion at the Church’s Governing Body meeting in April.
The Archbishop of Wales, Dr Barry Morgan, said, "While we, as bishops, welcome the decision that women can now be ordained as bishops in Wales, we recognise that there are some people who do not. We want to make sure that adequate provision is made for them so that they will still feel valued and accepted in the Church and will continue to worship and minister alongside us. We have been entrusted to draw up a Code of Practice within a year of the legislation being passed and we are keen to consult as widely as possible with church members in order to reflect their views as best we can."
The deadline for written submissions has now passed but everyone is welcome to attend and contribute to the open meetings. They will be take place as follows:
Llandaff Diocese
January 22, 7.30pm: St Catherine’s Church Hall, Pontypridd
Bangor Diocese
January 22, 7pm: Bangor Cathedral
St Davids Diocese
January 28, 7pm: Holy Trinity Church hall, Aberaeron
January 29, 7pm: Peniel School, Carmarthen
January 30, 7pm: St Mary’s Church, Haverfordwest
St Asaph Diocese
February 17, 7pm: St Peter’s Church, Holywell
February 20, 7pm: St John’s Church, Pool Quay
Monmouth Diocese
February 20, 7.30pm: Newport Cathedral
Swansea & Brecon Diocese
February 4, 7pm, Brecon Cathedral
For more information, please contact:
Anna Morrell
Archbishop's Media Officer / Swyddog y Cyfryngau i'r Archesgob
Tel: 02920 348208; mobile: 07 91 91 587 94
Esgobion yn cynnal cyfarfodydd ledled Cymru ar 'god' ar gyfer ordeinio menywod fel esgobion
Mae Esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn cynnal cyfarfodydd agored ledled Cymru y mis hwn a'r mis nesaf (Ionawr a Chwefror) i ymgynghori ar god ar gyfer ordeinio menywod fel esgobion.
Fel rhan o ddeddfwriaeth i ordeinio menywod fel esgobion, a basiwyd gan yr Eglwys ym mis Medi, mae'n ofynnol i'r Esgobion lunio Cod Ymarfer i sicrhau fod holl aelodau'r Eglwys, yn cynnwys rai gyda gwrthwynebiad cydwybodol i'r penderfyniad, yn parhau i deimlo eu bod yn cael eu derbyn a'i gwerthfawrogi ynddi.
Cynhelir cyfarfodydd agored ym mhob un o'r chwe esgobaeth yng Nghymru ar gyfer aelodau i ddweud eu barn ar y darpariaethau ddylai gael eu cynnwys yn y cod. Dilynir y cyfarfodydd gan drafodaeth mewn cyfarfod o Gorff Llywodraethu'r Eglwys ym mis Ebrill.
Meddai Dr Barry Morgan, Archesgob Cymru: “Er ein bod ni’r esgobion yn croesawu’r penderfyniad i ganiatáu ordeinio menywod yn esgobion yng Nghymru, rydym ni’n cydnabod y bydd rhai pobl yn gwrthwynebu’r penderfyniad. Rydym ni’n awyddus i sicrhau darpariaeth briodol ar eu cyfer nhw er mwyn iddyn nhw barhau i deimlo bod croeso iddyn nhw yn yr Eglwys a bod yr Eglwys yn eu gwerthfawrogi ac er mwyn iddyn nhw barhau i addoli a gweinidogaethu ochr yn ochr â ni. Rydym ni wedi cael y dasg o baratoi Cod Ymarfer mewn blwyddyn ac rydym yn awyddus i ymgynghori â chymaint ag y gallwn o aelodau’r eglwys er mwyn i ni adlewyrchu eu barn orau ag y gallwn.”
Mae'r dyddiad cau wedi bod ar gyfer tystiolaeth ysgrifenedig ond mae croeso i bawb fynychu a chyfrannu at y cyfarfodydd agored. Fe'u cynhelir fel sy'n dilyn:
Esgobaeth Llandaf
22 Ionawr, 7.30pm: Neuadd Eglwys Santes Catherine, Pontypridd
Esgobaeth Bangor
22 Ionawr, 7pm: Cadeirlan Bangor
Esgobaeth Tyddewi
28 Ionawr 28, 7pm: Neuadd Eglwys y Drindod Sanctaidd, Aberaeron
29 Ionawr, 7pm: Ysgol Peniel, Caerfyrddin
30 Ionawr, 7pm: Eglwys Santes Fair, Hwlffordd
Esgobaeth Llanelwy
17 Chwefror, 7pm: Eglwys San Pedr, Caerfyrddin
20 Chwefror, 7pm: Eglwys Sant Ioan, Cei'r Trallwng
Esgobaeth Mynwy
20 Chwefror, 7.30pm: Cadeirlan Casnewydd
Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu
4 Chwerfror, 7pm, Cadeirlan Aberhonddu